²ÝÁñÉçÇø

Alert Section

Ymennydd Anhygoel eich Plentyn

Oeddech chi’n gwybod nad yw ymennydd babi wedi datblygu’n llawn pan maent newydd eu geni?  Maent yn cael eu geni gyda thua 100 biliwn o gelloedd yr ymennydd, ond mae llai o gysylltiadau rhwng y celloedd.  Un o’r ffactorau pwysicaf sy’n effeithio ar ddatblygiad ymennydd eich babi yw ansawdd y perthnasoedd maent yn eu cael yn gynnar yn eu bywyd  Maent angen oedolion gofalgar er mwyn weirio’r cysylltiadau yn yr ymennydd, ac mae GroBrain yn trafod tair set o ‘wifrau ymennydd’ mae rhieni angen gwybod amdanynt.

  • Weirio cariad (gallu babi i deimlo’n gariadus)
  • Weirio straen (gallu babi i reoli straen)
  • Weirio lleferydd (datblygiad gwybyddol)

Mae cymaint o bethau y gall rhieni eu gwneud i helpu datblygiad cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol eu plentyn.

Meddyliwch am wenu, cysuro a siarad babi i feithrin perthnasoedd da a thyfu ymennydd eich babi.

Rydym yn darparu hyfforddiant i helpu rhieni a gwasanaethau i ddeall pwysigrwydd datblygiad yr ymennydd yn y blynyddoedd cynnar.  Mae’n cynnwys:

  • ‘GroBrain’
  • ‘Baby GroBrain’
  • ‘Bonding and brain development’
  • ‘A guide for parents and carers’

‘Oxford Brain Story’

Rydym ni’n gweithio gyda Phrifysgol Rhydychen a rhieni i’n helpu oll i ddeall y datblygiad pwysig hwn ym mywyd plentyn, a deall sut mae profiadau’n siapio ein hymennydd, a’r goblygiadau hirdymor ar iechyd meddwl a chorfforol, fel y gallwn wella canlyniadau i blant ac oedolion.

I Deuluoedd ac Unigolion

Mae’r Brain Story yn ymwneud â sut mae profiadau’n siapio ein hymennydd. Mae’n stori i bawb, gan ein bod i gyd yn dibynnu ar y rhai o’n hamgylch am y profiadau sy’n creu adeiladwaith ein hymennydd. Dyma’r sylfaen i’r ffordd rydym ni’n dysgu ac yn ymddwyn ac i’n hiechyd yn y dyfodol.

Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Gall perthnasoedd gwael achosi straen ar yr ymennydd.

Digwyddiadau trawmatig sy’n effeithio ar blant wrth dyfu i fyny yw Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, fel dioddef camdriniaeth fel plentyn neu fyw mewn aelwyd lle mae trais domestig, camddefnyddio sylweddau neu salwch meddwl.

‘How Brains are Built: The Core Story of Brain Development’

Cefnogi plentyn neu berson ifanc gyda theimladau o orbryder