²ÝÁñÉçÇø

Alert Section

Gweithlu Blynyddoedd Cynnar

Gyrfaoedd yn y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Dysgu am y mathau o swyddi blynyddoedd cynnar a gofal plant a’r cymwysterau a’r datblygiad gyrfaol sydd ar gael.

Yn Sir y Fflint, rydym yn ymrwymo i ddatblygu gweithlu proffesiynol sy’n cynnwys staff o ansawdd uchel o wahanol gefndiroedd i adlewyrchu’r amrywiaeth yn ein Sir. 

Addysgwyr / Ymarferwyr Blynyddoedd Cynnar 

Mae addysgwyr / ymarferwyr blynyddoedd cynnar yn darparu gofal, cyfleoedd dysgu a chwarae cynnar i blant dan 5 oed.  Gweler “Pwy ydi Pwy” am ragor o wybodaeth.

Efallai y byddwch yn gweithio mewn: 

Meithrinfeydd Dydd

Gweithio gyda phlant 0-7 oed.   Mae meithrinfeydd dydd fel arfer ar agor drwy gydol y flwyddyn o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 8.00am tan 6.00pm, ac yn cynnig sesiynau diwrnod llawn neu hanner diwrnod.  Fe’u cynhelir yn bennaf fel busnesau preifat, ond mae rhai’n cael eu cynnal gan sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol a rhai mewn Canolfannau Teulu.  Mae gan y mwyafrif ohonynt ystafelloedd neu ardaloedd ar wahân i fabanod, plant bach a phlant cyn ysgol. 

Grwpiau cyn ysgol (a elwir hefyd yn grwpiau chwarae) 

Gweithio gyda phlant rhwng 2 a 5 oed. Mae’r grwpiau hyn fel arfer yn weithredol yn ystod y tymor ac yn cynnig sesiynau bore a/neu brynhawn.  Maent yn gweithredu o amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys canolfannau cymunedol, neuaddau eglwys a neuaddau sgowtiaid ac fel arfer yn cael eu cynnal gan grwpiau cymunedol gwirfoddol.

Ysgolion a dosbarthiadau meithrin

Gweithio gyda phlant rhwng 3 a 5 oed. Mae’r rhain ar agor yn ystod y tymor yn unig.  Mae dau fath gwahanol o ysgolion a dosbarthiadau meithrin: Mae dosbarthiadau meithrin a gynhelir yn weithredol mewn rhai ysgolion ac yn cael eu cynnal gan yr Awdurdod Addysg Lleol ac ar agor yn ystod y tymor yn unig.  Rhoir dewis o amseroedd hyblyg i rieni o bryd i’w gilydd.  Mae unedau meithrin ysgolion annibynnol ac ysgolion meithrin preifat yn cynnig sesiynau hyblyg - bore, prynhawn neu drwy’r dydd.  Mae rhai ohonynt ar agor drwy gydol y flwyddyn, ond bydd rhai ond ar agor yn ystod y tymor. 

Gwarchodwr Plant

Mae’n bosibl y bydd arnoch chi eisiau dechrau eich busnes eich hunan. .

Gweithwyr chwarae

Mae gweithwyr chwarae’n cynnig cyfleoedd chwarae a gweithgareddau i blant oed ysgol rhwng 5 ac 11 oed y tu allan i oriau ysgol arferol.   Mae’n bosibl y byddwch yn gweithio o’r ysgol / lleoliad gwaith chwarae wedi’u lleoli yn neu’n agos at ysgolion ac mae’r rhain yn aml yn cael eu cynnal gan yr ysgol, busnesau preifat neu sefydliadau gwirfoddol lleol.